Telerau ac amodau

Gwefannau’r llywodraeth yw www.walesthebrand.com a www.thevoiceofwales.com , ac maent yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, y cyfeirir ati wedi hyn fel ‘Ni’. Wrth ddod i mewn i’n gwefan, rydych chi fel defnyddiwr (‘Chi’) yn derbyn ein Telerau ac Amodau.

Mae'r gwefannau hyn sy'n perthyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r gwefannau cysylltiedig yn cael eu cynnal at eich defnydd personol chi ac er mwyn i chi eu darllen. Drwy ddod i mewn i’r wefan hon a’i defnyddio, rydych yn derbyn y Telerau ac Amodau, hyn a fydd mewn grym o’r dyddiad y’i defnyddir am y tro cyntaf.

Eiddo deallusol

Nodau perchnogol Llywodraeth Cynulliad Cymru yw enwau, delweddau a logos adnabod Llywodraeth Cynulliad Cymru a Brand Cymru ac Is-frandiau Cyflewni Gwasanaethau Cymru. Ni chaniateir copïo na defnyddio’r logo a/neu logos unrhyw drydydd parti arall y ceir mynediad atynt drwy’r wefan hon heb gael caniatâd ymlaen llaw gan berchennog perthnasol yr hawlfraint.
 
Dylid cyfeirio ceisiadau i gael defnyddio ein logo at Dîm Brandio Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ceir manylion cyswllt ar y wefan hon.

Hawlfraint y Goron

Caiff y deunydd sy'n ymddangos ar y wefan hon ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron oni nodir fel arall. Gellir atgynhyrchu'r deunydd a ddiogelir gan hawlfraint y Goron (heblaw'r arfbais frenhinol a logos adrannau neu asiantaethau) yn ddi-dâl ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw gyfrwng ar yr amod bod y deunydd yn cael ei atgynhyrchu'n gywir ac nad yw’r cyd-destun yn gamarweiniol. Pan gaiff unrhyw un o'r eitemau ar y wefan sydd o dan hawlfraint y Goron ei hailgyhoeddi neu pan anfonir copïau ohonynt at eraill, mae'n rhaid enwi ffynhonnell y deunydd a chydnabod y statws o ran hawlfraint.

Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan hawlfraint y Goron yn cynnwys unrhyw ddeunydd ar y wefan hon y nodir ei fod yn ddeunydd hawlfraint trydydd parti. Mae’n rhaid cael awdurdod y deiliaid hawlfraint dan sylw cyn atgynhyrchu deunydd o'r fath.
 
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn annog defnyddwyr i greu cysylltiadau hypertestun â'r wefan hon. I gael rhagor o wybodaeth am bolisi hawlfraint y Goron ac am drefniadau trwyddedu, trowch at y canllawiau sydd i'w gweld ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus - www.opsi.gov.uk

Hypergysylltu

Nid oes yn rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu’n uniongyrchol â thudalennau’r wefan hon. Nid oes gennym wrthwynebiad i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r wybodaeth ar ein gwefan. Er hynny, byddai’n well gennym pe na bai ein tudalennau yn cael eu llwytho i fframiau ar eich gwefan. Dylai tudalennau Llywodraeth Cynulliad Cymru gael eu llwytho i mewn i ffenestr gyflawn y defnyddiwr. Nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i mewn i fframiau ar eich safle.
Perchenogion Safleoedd Porthol Os ydych am gynnwys tudalennau gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru ar safle porthol, cysylltwch â'r cyfeiriad: brand@cymru.gsi.gov.uk. Nodwch eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn, eich rhif ffacs a’ch cyfeiriad e-bost a disgrifiad o’ch safle porthol.

O’r wefan hon

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau cysylltiedig. Nid yw cynnwys gwefannau ar restr yn gyfystyr â chymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy’r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros hygyrchedd tudalennau cysylltiedig.

Diogelu rhag feirysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i archwilio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o’r broses gynhyrchu. Mae’n syniad da i chi redeg rhaglen wrth-feirws ar unrhyw ddeunydd sy’n cael ei lawrlwytho o’r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb os byddwch yn colli data neu os difrodir neu amherir ar eich system gyfrifiadur tra byddwch yn defnyddio deunyddiau o wefannau Llywodraeth Cynulliad Cymru..

Ymwadiad

Mae gwefannau www.walesthebrand.com a www.voiceofwlaes.com a'r wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau cysylltiedig (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau unrhyw drydydd parti) yn cael eu darparu ‘fel y maent’ heb unrhyw gynrychiolaeth neu gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, pa un a ydynt yn ddiamwys neu’n oblygedig, gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i warantau goblygedig ynghylch ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, heb dor-cyfraith, cyfaddasrwydd, diogelwch a chywirdeb. Nid ydym yn rhoi sicrwydd y bydd y swyddogaethau yn y deunydd ar y wefan hon yn ddi-dor neu heb gamgymeriadau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu y bydd y wefan hon neu’r gweinydd sy’n sicrhau bod y wefan ar gael yn rhydd rhag feirysau neu’n cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni fyddwn dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod, heb gyfyngiadau, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath a ddaw o ddefnyddio neu fethu defnyddio data, neu elw, sy’n deillio neu sy’n gysylltiedig â’r defnydd o wefannau Llywodraeth Cynulliad Cymru.
 
Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdod neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.
S8080 Ltd