Mae ein logos yn rhan bwysig o hunaniaeth brand Cymru. Maen nhw'n cynrychioli gwerthoedd ein brand, ac yn helpu i greu cyswllt rhwng ein negeseuon ar draws marchnadeodd gwahanol. Mae fersiynau gwahanol o'r logo ar gael, gan ddibynnu ar ddiben yr hyrwyddiad, a'r gynulleidfa yr ydych yn ei hannerch. Hefyd, rhaid i'r logos gael eu defnyddio yn gywir ac yn gyson. Mae'r adran hon yn rhoi mwy o arweiniad a chanllawiau i chi ar sut a ble i ddefnyddio logos brand Cymru, a sut i ofyn am gopïau ohonynt. I wneud cais am logo, cysylltwch â
brand@wales.gsi.gov.uk.
the Wales brand logo
Dyma'r prif farc logo. Dylid ei ddefnyddio fel y prif logo ar bob deunydd os mai'r diben yw hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gyffredinol o Gymru ymhlith pob cynulleidfa a marchnad allanol.
Mae logo Cymru yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru hefyd, wrth ddatblygu cefnogaeth ar gyfer brand Cymru, a dealltwriaeth ohono, ymhlith pobl a busnesau Cymru, ac ar gyfer gweithgareddau a deunyddiau sy'n targedu cynulleidfaoedd allanol.
Dylid defnyddio fersiwn y logo â'r Saesneg yn gyntaf wrth hyrwyddo y tu allan i Gymru, a'r fersiwn â'r Gymraeg yn gyntaf yng Nghymru. Mae fersiynau uniaith, a fersiynau mewn ieithoedd eraill ar gael hefyd, ond dylid defnyddio'r rhain mewn amgylchiadau arbennig yn unig.
logos eraill
Ar brydiau, bydd angen defnyddio prif logo Brand Cymru ynghyd â logo Llywodraeth Cymru, logo partner neu logo perthnasol Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) os yw'r prosiect yn derbyn cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd. I gael rhagor o ganllawiau, darllewnch y ddogfen isod, Pa logo i'w ddefnyddio.
Dylai staff Llywodraeth Cymru sy'n chwilio am ganllawiau ar sut i ddefnyddio logo Llywodraeth Cymru edrych ar Horizon.
sut i ddefnyddio a gosod y logos
Mae'r ddogfen hon yn cynnwys gwybodaeth hanfodol am sut i atgynhyrchu a defnyddio logo brand Cymru a logos is-frand cyflenwi gwasanaethau Cymru ar gyfer cyfryngau, gosodiadau a chefndiroedd amrywiol.
gwneud cais am logos
I wneud cais am logos brand Cymru, Llywodraeth Cymru neu'r Undeb Ewropeaidd, cysylltwch â brand@wales.gsi.gov.uk.