Rydym ni'n dangos pa mor angerddol ydym dros Gymru, a'n bod yn falch ohoni.
Mae hynny'n briodol. Mae Cymru yn wych. Ond ni ddylem wneud hynny mewn modd trahaus na phregethwrol, nid ni fyddai hynny. Ystyriwch Ganolfan Mileniwm Cymru. Nid ydym ni'n canu clodydd y bensaernïaeth o'r radd flaenaf. I ni, adeilad byw ydyw. Mae'n cynnig ballet, opera a dawns. I gyd o dan yr un to. Nid brolio yw hynny. Balchder ydyw. Mewn ffordd gyfeillgar, goeglyd a di-lol.