Rydym yn gobeithio y bydd yr wybodaeth ar y wefan hon yn ddefnyddiol i chi. Isod, ceir gwybodaeth i'ch helpu i ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch ac i sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r diweddaraf.
Dolenni defnyddiol
Os ydych yn chwilio am ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r canlynol, ewch i'r adran dolenni defnyddiol:
- Gwneud cais am logo neu ffotograffau'r brand
- Gwefannau sy'n hyrwyddo Cymru i weddill y byd
- Gwybodaeth am Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac am ddarparu cynnyrch a gwasanaethau
- Gwefannau sy'n cynnig gwybodaeth am arfer gorau, ac am frandio a marchnata
Cysylltwch â thîm y brand
Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar y wefan, cysylltwch â thîm y brand i holi unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â'r brand.
Anfonwch yr wybodaeth ddiweddaraf ataf
Os ydych am gael gwybod am y diweddaraf i gael eu llwytho i'r adrannau arfer gorau a'r oriel ar y wefan, cliciwch ar y ddolen i gofrestru ar gyfer porthiad RSS gwefan brand Cymru.
Gallwch gofrestru ar gyfer y porthiad RSS hwn mewn amryw o ffyrdd:
- clicio ar y ddolen hon i gofrestru (rhaid eich bod wedi logio i mewn gyntaf)
- llusgo botwm oren RSS i mewn i'ch Darllenydd Newyddion
- llusgo URL y porthiad RSS i mewn i'ch Darllenydd Newyddion
- torri a gludo URL y porthiad RSS i mewn i'ch Darllenydd Newyddion
Beth yw RSS?
Mae Porthiad Newyddion RSS (Syndicetiad Syml Iawn) yn eich galluogi i weld yn awtomatig pan fydd gwefannau wedi llwytho cynnwys newydd. Gallwch weld y newyddion diweddaraf ar eich cyfrifiadur cyn gynted ag y bydd yn cael ei gyhoeddi.
Parth yr Aelodau
Parth ar gyfer timau marchnata mewnol a chyflenwyr ac asiantaethau allanol sydd wedi cofrestru gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru yw parth yr aelodau.
Os ydych yn aelod, ac os hoffech gymryd mantais o'r fforwm, y llyfrgell logos neu os hoffech gofrestru i dderbyn y diweddaraf mewn e-byst rheolaidd, rhaid mewngofnodi.