busnes
Mae'r carthenni hyn wedi teithio ymhell. Mae hynny oherwydd bod y byd yn dechrau cymryd sylw o'r busnesau a'r cynnyrch sy'n cael eu gwneud yng Nghymru. Mae hynny'n beth da. Ond dim ond megis dechrau yw hyn. Rydym am ddod hyd yn oed yn fwy hysbys fel y lle i gynnal busnes, i fasnachu ac i fuddsoddi ynddo. A'r ffordd orau o wneud hynny yw dweud wrth bobl amdanom. Bydd yr adran hon yn eich helpu i ddweud wrth bawb am y cyfleoedd real y gallwn eu cynnig i fusnesau o bob cwr o'r byd.
Nid yw ein hagwedd at fusnes yn gawslyd, nac yn ymwneud รข ffeithiau a ffigyrau moel. Yn hynod ddigon, mae'n agwedd Gymreig iawn. Mae gennym lawer i'w gynnig, ond mae ambell beth yn ein gwneud ni'n unigryw. Pethau sy'n mynnu sylw. Dyma
werthoedd ein brand, "Lle Agos Atoch", Pobl Real", "Diwylliant Dyfeisgar". Mae'r holl bethau hyn yn cyfrannu at y cyfle real y gallwn ei gynnig. Felly, yn addas ddigon, rydym wedi galw addewid craidd y brand yn 'Gyfle Real'.
Pwy sy'n cynnal busnes yng Nghymru? O ble maen nhw'n dod? Pa sectorau yr ydym yn eu targedu?
oriel yr ymgyrchoedd busnes
Cliciwch ar y delweddau isod i weld yr ymgyrchoedd busnes diweddaraf, neu ewch i'r
oriel gyflawn i weld cannoedd o enghreifftiau creadigol ar gyfer brand Cymru.

Meet Team Wales Business

London Business Networking Event on 7 March 2011 hosted by the Deputy First Minister

The eyes of the world were on Wales for The 2010 Ryder Cup at the Celtic Manor Resort in Newport.

DE&T Ryder Cup guests e-mail - pre-event